Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2012

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(48)v3

 

<AI1>

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) 

Mae’r Llywydd wedi cytuno i alw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2. 

Gweld y cwestiynau

</AI1>

<AI2>

Cwestiwn Brys (10 munud)

 

Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ledaeniad y firws Schmallenberg a’i oblygiadau ar gyfer diwydiant amaethyddol Cymru.

</AI2>

<AI3>

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) 

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI3>

<AI4>

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Diwygio Lles (45 munud)

</AI4>

<AI5>

4. Datganiad gan y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth: Cronfa Twf Economaidd Cymru (30 munud)

</AI5>

<AI6>

5. Dadl ar y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol Drafft (60 munud 

NDM4922 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn ystyried y Fframwaith Iechyd Rhyngwladol drafft, a anfonwyd at yr Aelodau drwy e-bost ar 20 Chwefror 2012; a

2. Yn nodi’r hyn sydd yn y Fframwaith ynghylch:

a) cryfhau cysylltiadau iechyd Cymru o fewn y gymuned iechyd ryngwladol; a

b) sicrhau bod cymuned iechyd ehangach Cymru yn cael mwy o amlygrwydd y tu hwnt i’n ffiniau.

Dogfen Ategol

Fframwaith Iechyd Rhyngwladol Drafft

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd denu’r deallusion rhyngwladol gorau ym maes iechyd i Gymru drwy gyfrwng gweithgareddau ymchwil addysg uwch o’r radd flaenaf.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu gwneud toriadau o 8.4 y cant mewn termau real i GIG Cymru ac y gallai hyn lesteirio’i allu i greu mwy o gysylltiadau rhyngwladol a’u gwella.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod iechyd yng Nghymru ar ei hôl hi o’i gymharu â rhanbarthau a gwledydd y byd sy’n cyflawni’r canlyniadau iechyd gorau oll.

Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'i chysylltiadau yn y gymuned iechyd ryngwladol i archwilio’r dewisiadau ar gyfer rhaglen i leihau'r niferoedd sy'n cael eu derbyn mewn ysbyty, yn debyg i’r rhaglen sydd wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Camden, New Jersey.

</AI6>

<AI7>

6. Dadl ar Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru (60 munud) 

 

NDM4921 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru ‘Ateb yr Her, Arwain y Newid’.

Mae copi o’r adroddiad i’w weld drwy ddilyn y linc hwn:

http://www.equalityhumanrights.com/hafan/cymru/cyhoeddiadau-yng-nghymru/ateb-yr-her-arwain-y-newid/

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am adroddiad diweddar gan Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n dangos bod y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf yng Nghymru wedi lledu, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau, ar y cyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i leihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru.

Gellir gweld adroddiad Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy fynd i:

http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/922/tudalen/58380

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn mynegi pryder am ganfyddiadau’r adroddiad blynyddol, sy'n nodi bod pobl anabl bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef trosedd na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn annog Llywodraeth Cymru i gymryd y camau priodol i fynd i'r afael â materion fel aflonyddu mewn cysylltiad ag anabledd a throseddau casineb anabledd.

Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi’r pryder a fynegwyd yn adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ‘Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru’, sef bod disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim 2.5 gwaith yn llai tebygol o gael graddau A*-C mewn pynciau craidd o’i gymharu â’u cyd-ddisgyblion, ac yn croesawu’r Grant Amddifadedd Disgyblion sy’n ceisio gwella’r sefyllfa hon.  

Gellir gweld ‘Dadansoddiad o Anghydraddoldeb Economaidd yng Nghymru’ drwy fynd i:

http://www.equalityhumanrights.com/uploaded_files/Welsh/anatomy_4_pager-welsh.pdf

 

</AI7>

<AI8>

Cyfnod Pleidleisio

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 29 Chwefror 2012

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>